Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 26 Mawrth 2019
Amser:
08.30 -
09.45
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Neil Hamilton AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Claire Fife, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.
Dosbarthodd y Trefnydd gopi caled diwygiedig o 'Amserlen Busnes y Llywodraeth am Dair Wythnos', a bydd yr holl newidiadau'n cael eu dangos ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 3 Ebrill 2019 –
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Gweithredu Datganoli Cyllidol yng Nghymru
·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) – gohiriwyd tan 1 Mai
Dydd Mercher 1 Mai 2019 –
·
Amser a
neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
–
gohiriwyd tan 8 Mai
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Dydd Mercher 8 Mai 2019 –
·
Amser a
neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60
munud)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais.
· Dewisodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 3 Ebrill:
NNDM7021 Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig am fil i ddiwygio a gwella cefnogaeth ar gyfer plant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol yng Nghymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) cyflwyno'r Model Barnahus o gymorth i ddioddefwyr gyda phwyslais therapiwtig;
b) gweithio gyda'r heddlu i ddefnyddio'r Model Barnahus o gynnal ymchwiliad i bob achos o gam-drin plant yn rhywiol; ac
c) yn cyflwyno newidiadau statudol i wella llety brys a llety dros dro i blant sydd wedi'u cam-drin, sy'n methu â dychwelyd i'w cartref neu sy'n ddigartref.
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes i amserlennu'r Dadleuon nesaf ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau ar 15 Mai a 26 Mehefin, a dewiswyd y cynnig canlynol i'w drafod ar 15 Mai. Yn unol â phenderfyniadau blaenorol y Pwyllgor Busnes, bydd y Swyddfa Gyflwyno yn hysbysu Aelodau o ddyddiadau tymor yr haf.
NNDM7020 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig am fil cerbydau cyhoeddus di-allyriad carbon
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fydd:
(a) hybu'r defnydd o gerbydau trydan neu gerbydau di-allyriadau yng Nghymru er mwyn helpu i leihau allyriadau carbon; a
(b) gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i lunio strategaeth i symud tuag at ddefnyddio cerbydau trydan neu gerbydau di-allyriadau yn y fflyd gyhoeddus yng Nghymru.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar ddyddiadau'r toriadau ar gyfer Hanner Tymor mis Hydref 2019 a Thoriad y Nadolig 2019.
Gan fod Dydd Calan ar ddydd Mercher yn 2020, ni fydd yn bosibl cynnal shifflad o'r cwestiynau llafar, nac i gynigion gael eu cyflwyno ar y dyddiau arferol yn ystod wythnos olaf y toriad, fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i dderbyn busnes ar gyfer 7 ac 8 Ionawr yn ystod wythnos gyntaf y toriad, drwy gynnal balot y cwestiynau llafar ddydd Llun 16 Rhagfyr, gyda'r terfyn amser ar gyfer shifflad y cwestiynau i'r Gweinidogion am 3:30 ddydd Mercher 18 Rhagfyr. Er mwyn caniatáu digon o amser i ystyried gwelliannau i gynigion ar gyfer y Cyfarfodydd Llawn cyntaf yn ôl ym mis Ionawr, cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid gosod y terfyn amser ar gyfer cynigion ar 7 ac 8 Ionawr am 6pm ddydd Mercher 18 Rhagfyr. Bydd y terfynau amser ar gyfer gwelliannau i gynigion ac ar gyfer cwestiynau i'r Prif Weinidog yn dilyn y drefn arferol.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd y gellid rhoi ystyriaeth yn nes at yr amser i drefnu busnes ar gyfer wythnos gyntaf mis Ionawr a fyddai'n amharu leiaf ar gyflwyno.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y dyddiadau dros dro ar gyfer Hanner Tymor y Gwanwyn a Toriad y Pasg 2020.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y trefniadau cyflwyno ar gyfer toriad y Pasg, Calan Mai a hanner tymor y Sulgwyn
Diwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Cydgrynhoi
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y weithdrefn amlinellol arfaethedig, a gwnaed cais i'r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno Rheolau Sefydlog drafft i'w hystyried. O ran yr un maes o ddiffyg cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Swyddogion y Cynulliad (sbarduno Ystyriaeth Fanwl y Cynulliad), gofynnodd y Rheolwyr Busnes i'r Ysgrifenyddiaeth ddrafftio ar gyfer y ddau opsiwn ac archwilio unrhyw drydydd opsiwn a allai fod ar gael.
Nododd y Rheolwyr Busnes lythyr Comisiwn y Gyfraith.
Trafododd y Rheolwyr Busnes amrywiaeth o faterion yn ymwneud â'r canllawiau a gofynnwyd i'r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno drafft diwygiedig yn adlewyrchu'r newidiadau y cytunwyd arnynt, a darparu nodiadau ar feysydd sydd angen eu hystyried ymhellach.
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai ffotograffydd yn bresennol yn y Siambr ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth nesaf 3 Ebrill.